Beth yw Cynrychiolydd Rheol 1.2?
Mae Cynrychiolydd Rheol 1.2 yn siarad ar ran person sydd heb allu i gydsynio i gyfyngiadau ar ei ryddid, pan fydd yn cael ei amddifadu o'i ryddid neu pan allai gael ei amddifadu o'i ryddid mewn lleoliad cymunedol neu ddomestig.
Os bydd y Llys Gwarchod yn awdurdodi colli rhyddid, bydd y Cynrychiolydd Rheol 1.2:
- Ymweld â'r person yn rheolaidd i ofyn eu barn a'u dymuniadau a gweld eu bod yn derbyn gofal da
- Gwirio mai'r driniaeth a'r gofal a ddarperir yw'r rhai sy'n cyfyngu leiaf ar eu hawliau a'u rhyddid sylfaenol
- Cyn belled ag y bo modd, helpu'r person i ddeall eu hawdurdodiad a sut mae'n effeithio arnynt, a'u cefnogi i arfer ey hawliau os ydynt am wneud hynny
Os bydd angen, gall Cynrychiolydd Rheol 1.2 ofyn am adolygiad o'r awdurdodiad neu wneud cais i'r Llys Gwarchod i newid neu derfynu'r awdurdodiad. Er enghraifft, gall hyn fod yn angenrheidiol os bydd anghenion y person yn newid, neu os nad yw’r awdurdodiad yn cael ei ddilyn yn iawn. Hyd yn oed pan na all rhywun ddweud wrth Gynrychiolydd Rheol 1.2 yr hyn y mae ei eisiau, bydd y Cynrychiolydd Rheol 1.2 yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i sefydlu eu barn a’u dymuniadau cyn belled ag y bo modd ac i sicrhau eu hawliau.
Cysylltwch â ni
Os am fwy o wybodaeth
am wasanaethau ASNEW, neu ar
gyfer ymholiadau cyffredinol ac
atgyfeiriadau,
ffoniwch neu e-bostiwch.
01352 759332
[email protected]
Os na allwch ffonio neu e-bostio
am unrhyw reswm, gallwch
anfon neges destun atom ar
07507 207 394
i ofyn i ni gysylltu â chi.
Nid ydym yn gallu anfon neges
destun yn ôl ar hyn o bryd
(rydym yn gweithio ar hyn),
ond gallwn ffonio neu
anfon e-bost atoch.
Rhowch wybod i ni
beth fyddai orau gennych.