Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol
Mae eiriolwr proffesiynol annibynnol yn rôl statudol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (DGCLl). Mae eiriolwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi dinasyddion a all gael anhawster i gynrychioli eu buddiannau eu hunain. Gwaith yr eiriolwr yw sicrhau bod lleisiau dinasyddion yn cael eu clywed, bod eu hawliau’n cael eu diogelu, a bod eu dewisiadau’n cael eu hystyried mewn prosesau lle gwneir penderfyniadau ynghylch eu gofal a’u llesiant.
Mae DGCLl (2014) yn nodi’r adegau hynny pan fydd yn rhaid i awdurdodau lleol sydd mewn partneriaeth ag unigolyn ystyried rôl eiriolaeth. Mae'r rhain yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r adegau canlynol:
Wrth wneud penderfyniadau a fydd yn cael effaith sylweddol ar fywyd pob dydd yr unigolyn.
Pan fydd ffactorau allanol yn effeithio ar eu trefniadau gofal a chymorth, er enghraifft, colli darparwr, cau cartref gofal, newid trefniadau rheoli neu berchnogaeth cartrefi gofal.
Pan amheuir fod unigolyn mewn perygl o niwed neu esgeulustod neu'n destun pryderon diogelu.
Wrth baratoi i adael ysbyty a dychwelyd i'r gymuned.
Cyfrifoldebau allweddol
- Cynrychiolaeth a Chefnogaeth: Cynorthwyo dinasyddion i fynegi eu hanghenion, eu hoffterau, a'u barn wrth drafod gyda'r gwasanaethau cymdeithasol a sefydliadau perthnasol eraill.
- Gwybodaeth: Darparu gwybodaeth glir am eu hawliau, opsiynau, a’r gwasanaethau sydd ar gael, gan eu galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus.
- Sicrhau Tegwch: Diogelu buddiannau dinasyddion, gan sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu gwneud yn deg ac yn dryloyw.
- Grymuso: Helpu dinasyddion i fagu hyder a sgiliau er mwyn iddynt allu hunaneirioli mewn sefyllfaoedd yn y dyfodol.
Er mwyn eu galluogi i gynnal gwrthrychedd a chanolbwyntio ar ddymuniadau a theimladau'r dinesydd yn unig, mae’r EPA yn gweithredu'n annibynnol o ddarparwyr gwasanaeth.
Cysylltwch â ni
Os am fwy o wybodaeth
am wasanaethau ASNEW, neu ar
gyfer ymholiadau cyffredinol ac
atgyfeiriadau,
ffoniwch neu e-bostiwch.
01352 759332
[email protected]
Os na allwch ffonio neu e-bostio
am unrhyw reswm, gallwch
anfon neges destun atom ar
07507 207 394
i ofyn i ni gysylltu â chi.
Nid ydym yn gallu anfon neges
destun yn ôl ar hyn o bryd
(rydym yn gweithio ar hyn),
ond gallwn ffonio neu
anfon e-bost atoch.
Rhowch wybod i ni
beth fyddai orau gennych.